Wednesday, 7 May 2014

Oxford-Cambridge Celtic Colloquium, 2014 (bilingual edition)



David Callander, ASNC graduate student, reports:

In-keeping with time-honoured tradition, on Saturday the combined forces of the Oxford and Cambridge Celticists descended upon the Cambridge English faculty for a day of wonderful papers, spanning many aspects of Celtic literature and history. 

After the Oxonians were welcomed in, one of their number, Angela Grant, offered the first paper of the day, a fascinating look at the state of Welsh studies before Gwenogvryn Evans produced his brilliant series of diplomatic editions. We then moved on to Irish studies, with two papers by ASNC’s own Razvan Stanciu and Sara Lackner. Razvan gave a penetrating analysis of the Túatha Dé Danann, looking at how they are presented in the texts we have, rather than focusing on them as shadows of pagan deities. Sara’s paper ‘Passive actors: agency and male authority in several texts from the Yellow Book of Lecan’ was a real tour-de-force, demonstrating how useful close linguistic analysis can be to our understanding of literary texts. Looking at the sorts of verbs used by different types of figures within a group of medieval Irish works, Sara was able to illustrate compelling patterns across texts, and utilize these in sensitive close readings of individual passages.

Refreshed by lunch, we returned to Wales in the afternoon. The first afternoon session was a tale of two Bens, Oxford’s Ben Sadler and our own Ben Guy. Ben Sadler started us off with an interesting new approach to five poems in the Book of Taliesin which have been assigned dates on the basis of historical arguments. He compared these to prose texts copied by the Book of Taliesin scribe and to Old Welsh, examining to what extent the language of the texts has been updated. Ben Guy then gave us an extremely detailed and learned talk on the sources of a medieval genealogy of St. Cadoc, showing how an examination of the sources greatly increases our understanding of the text itself and how its compiler operated.

Moving forward a few centuries, Oxford’s Sarah Ward gave us a fascinating insight into how the gentry operated in royalist North-East Wales during the interregnum, drawing upon a range of literary and non-literary, printed and manuscript sources. For the final session of the day, Hanna Hopwood, in a thoroughly enjoyable paper, looked at the use of colour in the descriptions of hair by the Cywyddwyr, observing how poets could have very different opinions concerning hair-colour, with even pallid, grey hair having its advocates! Finally, I talked a bit about editing the textual tradition of the early Welsh poem Armes Dydd Brawd, and received extremely useful feedback.

The day concluded with much revelry and mirth, and a long-awaited visit to the Welsh memorial plaques in St. John’s College chapel. Here’s hoping that next year’s trip to Oxford will be just as enjoyable and productive as this year’s colloquium.

Colocwiwm Celteg “Caer-ychen”, 2014

Un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn, heb os nac oni bai, yw’r gynhadledd fach hon. Ers dros ddegawd mae myfyrwyr ac ysgolheigion Celteg Caergrawnt a Rhydychen wedi bod yn ymweld â’i gilydd er mwyn rhannu syniadau newydd eu hymchwil. Mae’r Colocwiwm yn symud o’r naill brifysgol i’r llall bob blwyddyn, a Chaergrawnt oedd piau’r fraint o’i gynnal eleni. 

Ar ôl cael amser i siarad â hen ffrindiau o’r lle arall, cawsom bapur cyntaf y dydd gan Angela Grant, myfyrwraig ddoethuriaethol o Rydychen. Rhoes Angela amcan bras o sut siâp oedd ar astudiaethau Cymraeg cyn i Gwenogvryn gyhoeddi ei olygiadau diplomatig arloesol. Yr oedd yn ddiddorol iawn clywed am y cysylltiadau rhwng ysgolheigion megis Zeuss ar y cyfandir, a faint o gyfathrach fu rhyngddynt a Cheltegwyr cynnar yr ynys hon. Wrth gwrs, mae’r maes hwn yn rhy fawr o lawer i’w drafod yn drwyadl mewn un papur, a hyderaf y bydd Angela yn medru ychwanegu mwy o fanylion wrth i’w gwaith ddatblygu.

Symudasom wedyn at y Wyddeleg, gyda phapurau gan Razvan Stanciu a Sara Lackner o’r adran Eingl-Saesneg, Llychlyneg a Chelteg yma yng Nghaergrawnt. Cynigiodd Razvan ddarlleniadau diddorol o sut mae’r Túatha Dé Danann yn cael eu portreadu yn y testunau sydd gennym. Doeth a buddiol yw’r fath ymchwil, wrth inni geisio rhyddhau astudiaethau Celtaidd o ddrychiolaeth eu gwreiddiau academaidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oeddwn i wir wrth fy modd â phapur Sara, oedd yn analeiddio iaith gwahanol destunau yn fanwl iawn, cyn defnyddio hyn wrth ddarllen rhannau penodol o’r testunau. Mae hi wedi cynnig model i ni’r Literaturwissenchaftler o sut y gallwn elwa ar astudio nodweddion ieithyddol wrth ddehongli testunau, a gobeithiaf yn fawr y bydd eraill yn ei dilyn.

Ar ôl inni syrffedu ar frechdanau diflas Caergrawnt, wnaethon ni ail-ymgynnull a dychwelyd i astudiaethau Cymraeg. Yr oeddwn ychydig yn amheus pan welais deitl Ben Sadler (myfyriwr doethuriaethol o Rydychen, o Aberystwyth gynt), sef ‘Linguistic Transmission in the Book of Taliesin: an Introduction to Five Dated Poems’. Ond fe chwalwyd pob amheuaeth wrth imi glywed y papur a gweld bod Ben yn defnyddio model ieithyddol soffistigedig er mwyn analeiddio faint mae’r cerddi wedi cael eu newid wrth iddynt (pe derbyniwn y dadlau hanesyddol ynghylch eu hamseriad), gyda chanlyniadau diddorol iawn, sydd, efallai, yn herio’r dadlau hanesyddol rywfaint. Wedyn aeth ein  Ben ni ati i drafod ffynonellau achau canoloesol Cadog, gan arddangos ei ehangder o wybodaeth a thrylwyredd arferol.

Ar ôl hyn, daeth Sarah Ward (Rhydychen) â ni i ganol yr ail ganrif ar bymtheg, a dangos pa fath o fywyd oedd gan yr uchelwyr a arosasent yn ffyddlon i’r brenin yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Yn y sesiwn olaf, cawsom gyflwyniad dymunol i’r defnydd o liw gan y Cywyddwyr wrth iddynt ddisgrifio gwallt. Hanna Hopwood (Rhydychen) fu’r siaradwraig, ac yr oedd hi wedi dod â llawer o ffynonellau at ei gilydd i wella ein dealltwriaeth o’r pwnc. Tybed a ellid gwthio rhai o’r dadlau am liw ychydig bach ymhellach, e.e. pwysigrwydd symbolaidd gwahanol liwiau? ‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld rhagor o ffrwythau ei hymchwil. Yn olaf (a chofio bod rhaid clirio’r ‘stafell rywsut) es i ati i drafod fy ngolygiad newydd o draddodiad testunol ‘Armes Dydd Brawd’, a chefais adborth anhepgor fel y disgwyliais.

Yr oedd rhagor o bobl yn y Colocwiwm eleni na’r llynedd, ac ‘rwy’n gobeithio yn arw fod hyn yn arwydd bod Celteg yn dal i ffynnu yn hen brifysgolion Lloegr, er pob awel groes. Hir oes iddi.

Diolch yn fawr, David.

No comments:

Post a Comment